Rhys Iorwerth Cyf.
Cyfieithu · Sgwennu Copi · Gweithdai · Barddoniaeth · Darlledu
Translation · Copywriting · Workshops · Poetry · Broadcasting

Cefndir | About
Rhys Iorwerth ydw i, awdur a chyfieithydd proffesiynol.Ymhlith y gwasanaethau rydw i'n eu cynnig mae cyfieithu testun, sgwennu copi, cynnal gweithdai a llunio cerddi.Mae'r gwasanaeth wastad yn bersonol ac rydw i'n rhoi pwys mawr ar ansawdd a graen fy ngwaith, ynghyd ag brydlondeb. Cysylltwch ar bob cyfri am ddyfynbris neu sgwrs.
I'm Rhys Iorwerth, a professional author and translator.I translate texts of all kind, write copy, deliver workshops and create poetry.The service is always personal and I put great emphasis on the quality and accuracy of my work, as well as on timely delivery. Please get in touch for a quote or an informal chat.

Cyfieithu | Translation
Mae gen i dros bum mlynedd ar hugain o brofiad cyfieithu testun i'r Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys deng mlynedd yn rheoli fy musnes fy hun.Rydw i'n aelod cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru ac yn gyfforddus yn gwneud gwaith mewn unrhyw faes, o ddeunydd creadigol a chyfreithiol i gartŵns i blant! Mae gen i yswiriant indemniad llawn hefyd.
I have over 25 years’ experience of translating texts into Welsh and English, including ten years running my own business.I am a full member of Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (the Association of Welsh Translators and Interpreters). I work across a wide range of fields, from creative and legal material to children's cartoons! I also hold professional indemnity insurance.

Sgwennu Copi | Copywriting
Deunydd marchnata, hysbysebion, erthyglau, sgriptiau, gwefannau, areithiau, adroddiadau, cynnyrch i'r cyfryngau cymdeithasol — rydw i'n gallu creu copi difyr ac eglur yn yr holl feysydd hyn, gan amrywio'r cywair yn ôl y galw.
Marketing materials, advertisements, articles, scripts, websites, speeches, reports and social media — I can write clear, engaging copy across all these areas, adapting the tone and register as needed.

Gweithdai | Workshops
Rydw i'n cynnig gweithdai amrywiol i sefydliadau, busnesau ac ysgolion, mewn meysydd fel:
Cyfieithu creadigol (yn bennaf i gyfieithwyr sy'n delio â thestunau creadigol)
Sgwennu copi dwyieithog cryf (yn addas i unrhyw sefydliad sy'n gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg ac am feithrin hyder a sgiliau sgwennu Cymraeg eu staff)
Arddull y tŷ neu dôn llais
Barddoni a chynganeddu am hwyl (sy'n wych fel gweithgaredd corfforaethol neu feithrin tîm fymryn yn wahanol!)
Barddoni mewn ysgolion (i roi hwb i sgiliau creadigol plant)
Mae gen i dystysgrif DBS estynedig, ac mae modd addasu cynnwys y gweithdai i gyd-fynd â'ch anghenion chi. Cysylltwch am sgwrs.
I offer various workshops to organisations, businesses and schools, in fields such as:
Creative translation into Welsh (primarily for translators working with creative texts)
Effective bilingual copywriting (for organisations working in Welsh and English that want to strengthen their staff’s confidence and skills in writing bilingually)
House style or tone of voice
Writing Welsh poetry or cynghanedd for fun (an unusual corporate or team-building activity, delivered through the medium of Welsh)
Poetry workshops in schools (delivered through the medium of Welsh to develop children’s creative writing skills)
I have an enhanced DSB certificate and can adapt these workshops according to your needs. Get in touch for a chat.

Barddoniaeth a Darlledu | Poetry and Broadcasting
Yn ogystal â chyfieithu a sgwennu'n broffesiynol, rydw i'n fardd prysur. Ymhlith fy ngwobrau am farddoniaeth mae:
Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2011
Coron Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2023
Gwobr Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, 2015
Tlws Coffa Dic Jones, BBC Radio Cymru, 2013, 2019, 2021. 2026
Gwobr Goffa Michael Marks am Farddoniaeth yr Ieithoedd Celtaidd, 2020
Rydw i hefyd wedi cyflwyno rhaglenni niferus ac wedi sgriptio'n helaeth i deledu a radio.Ymhlith fy ngwaith darlledu mae Gwlad Bardd, ffilm y gwnes ei sgwennu a'i chyflwyno am y byd barddol Cymraeg. Cafodd hon ei henwebu am wobr y Rhaglen Ddogfen Nodwedd orau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026.Os hoffech chi gomisiynu cerdd i achlysur arbennig, neu drafod gwaith sgriptio, cysylltwch efo fi.
Alongside my professional translation and copywriting work, I am an active Welsh-language poet. My poetic awards include:
Chaired poet, National Eisteddfod of Wales, 2011
Crowned poet, National Eisteddfod of Wales, 2023
Wales Book of the Year, Welsh Language Poetry Category, 2015
Dic Jones Memorial Prize, BBC Radio Cymru, 2013, 2019, 2021, 2026
Michael Marks Award for Poetry in a Celtic Language, 2020
I have also presented numerous programmes and written extensively for tv and radio.Among my broadcasting work is Gwlad Bardd, the film I scripted and presented about the Welsh-language poetic scene. It was nominated for Best Feature Programme at the 2026 Celtic Media Festival.If you would like to commission a Welsh-language poem for a special occasion, or discuss screenwriting projects, do get in touch.
Cysylltu | Contact
I drafod gwaith, neu i holi am fy mhrisiau, cysylltwch drwy'r ffurflen isod ac mi ddo' i yn ôl atoch chi mewn dim o dro.
To discuss potential work, or to request my current rates, use the form below and I'll respond very soon.